![Bore Calan Yng Nghaerdydd](https://source.boomplaymusic.com/group10/M00/11/24/52b27445e38641b093fe9be38bf3748a_464_464.jpg)
Bore Calan Yng Nghaerdydd Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2022
Lyrics
Na na na na na na na
Na na na na na na na
Bore Calan yng Nghaerdydd
Strydoedd gwag a swn dim byd
Blwyddyn arall wedi mynd
Fel dweud ffarwel â rhyw hen ffrind
Heddiw mae Heol Eglwys Fair
Aʼi fryd yn welw wediʼr ffair
Ond teimlad hen a newydd sydd
Yn treiddio strydoedd llwm Caerdydd
Bore Calan yng Nghaerdydd
Na na na na na na na
Mae'r yfed garwyr yn eu gwlau
Mae siopau'r ddinas oll ar gau
Lle bu bwrlwm dinas fawr
Sahara goncrid yw yn awr
Cardotyn bach yn 'Chippy lane'
Yn cuddioʼi drallod gyda gwên
Ymbil am arian â'i ddwy law
Blwyddyn arall yn y baw
Blwyddyn arall yn y baw
Neithiwr roedd teimlad fod na newid ar droed
Neithiwr roedd teimlad y doʼn ni nol at ein coed
Addewid oedd am newydd fyd
Heddiw yr un ywʼr gan o hyd
Ar fore Calan yng Nghaerdydd
Ar fore Calan yng Nghaerdydd
Does neb â wyr y dynged fydd
Ar fore Calan yng Nghaerdydd
Awn ninnau'n ôl iʼr byd go iawn
A cheisio byw rhyw fywyd 'llawn'
Ond ias ansicrwydd sydd drwy'r tir
Gwleidyddion syʼn gohirioʼr gwir
Yr un hen gan, yr un hen dôn
ʼRun ywʼr probleme yn y bôn
Symud y dodrefn yden ni
Troi llygad ddall iʼr sobrwydd syʼ
Ar fore Calan yng Nghaerdydd
Yr hyn sydd ar fy meddwl i
Rhyw deimlad hen a newydd sydd
Ar fore Calan yng Nghaerdydd
Ar fore Calan yng Nghaerdydd