![Cynnal Y Fflam ft. Martin Beattie](https://source.boomplaymusic.com/group10/M00/11/24/52b27445e38641b093fe9be38bf3748a_464_464.jpg)
Cynnal Y Fflam ft. Martin Beattie Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2022
Lyrics
Beth am gynnau coelcerth fawr
Ac yna'i chynnal trwy y dydd
Cynnal coelcerth sydd fel cynnal cariad
Gofal ddaw a dyfalbarhad
Hawdd yw cynnau fflam sydyn
Anoddach cadw'r fflam ynghyn
Heb baratoi a chreu sylfeini cadarn
Diffodd wnaiff y fflamau mewn dim
Oooo
Hawdd yw cynnau tan ar hen aelwyd
Tan ar hen aelwyd
Tan ar hen aelwyd
Deffro'r fflam fu'n llosgi yn ara'
Y fflam sydd yn para
Hyd ddiwedd y byd
Os byth wnei brofi ennyd wan
Paid llosgi'th fysedd yn y tan
Cynnal coelcerth sydd fel cynnal cariad
Gofal ddaw a dyfalbarhad
A paid a mentro gam yn nes
Os wyt ti'n methu dal y gwres
Cynnal coelcerth sydd fel cynnal cariad
Gofal ddaw a dyfalbarhad
Oooo
Hawdd yw cynnau tan ar hen aelwyd
Tan ar hen aelwyd
Tan ar hen aelwyd
Deffro'r fflam fu'n llosgi yn ara'
Y fflam sydd yn para
Hyd ddiwedd y byd
Hawdd yw cynnau tan ar hen aelwyd
Tan ar hen aelwyd
Tan ar hen aelwyd
Deffro'r fflam fu'n llosgi yn ara'
Y fflam sydd yn para
Hyd ddiwedd y byd
Beth am gynnau coelcerth fawr
Ac yna'i chynnal drwy y dydd
Cynnal coelcerth sydd fel cynnal cariad
Gofal ddaw a dyfalbarhad