![Sna Neb Yn Gw'bod Lle Mae Cemaes](https://source.boomplaymusic.com/group10/M00/11/24/52b27445e38641b093fe9be38bf3748a_464_464.jpg)
Sna Neb Yn Gw'bod Lle Mae Cemaes Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2022
Lyrics
Mae pawb yn gwbod lle mae Llannerch-y-medd
Castell Nedd, ag Abertawe
Aberystwyth, Penrhyn Gwyr
Aberteifi, Dyffryn Nantlle
Mae pawb yn gwbod lle mae Gandalf yn byw
Er ei fod yng nghanol nunlle
Elvis Presley oedd dwi'n siwr
Yn byw yn Graceland bell, dwin ame
Ond sna neb yn gwbod lle mae Cemaes
Yr un yn y canolbarth, dim Cemaes Sir Fôn
Mae pawb o hyd yn pasio drwyddo
Y pentre bach drws nesa i Cemmaes Road
I'r gogledd o Mach, i'r de o Dol
Mae'r A470 yn mynd trwy'i ganol
Sna neb yn gw'bod lle mae Cemaes
Dwi'n dechre meddwl na i symud i fyw
I rywle sy'n fwy adnabyddus
Pontypwl, neu Tal-y-Llyn
Bodelwyddan, neu Lanberis
I Sbyty Ifan, neu Betws yn Rhos
Llanfairfechan, neu Pwllheli
Capel Celyn, Pant y Dwr
Abersoch, neu Felinheli
Chos sna neb yn gwbod lle mae Cemaes
Yr un yn y canolbarth, dim Cemaes Sir Fôn
Mae pawb o hyd yn pasio drwyddo
Ond neb a wyr yn union am lle dwi'n son
I'r gogledd o Mach, i'r de o Dol
Mae'r A470 yn mynd trwy'i ganol
Ger Cadair Idris, yng ngwydd yr Aran
A'r afon Ddyfi, y llinyn arian
Mae pawb yn gwbod lle mae Llanfair PG
A thre Llanelli ag Aberllefenni
A Dolwyddelan, ag Aberhosan
A Cerrig y Drudion, ac Aberdaron
A Betws y Coed, a Gwlad yr Iâ
Ac Azerbaijian, a Guatemala
Y Ffrainc a'r Eidal, a Tanzania
A Southend on Sea, a Papua New Guinea
Ond sna neb yn gwbod lle mae Cemaes
I be mae'r byd yn dod?!