![Byw I'r Dydd ft. Cor Aelwyd Dyffryn Clwyd, Mared Williams, Daniel Lloyd, Jacob Elwy & Celyn Llwyd Cartwright](https://source.boomplaymusic.com/group10/M00/11/24/52b27445e38641b093fe9be38bf3748a_464_464.jpg)
Byw I'r Dydd ft. Cor Aelwyd Dyffryn Clwyd, Mared Williams, Daniel Lloyd, Jacob Elwy & Celyn Llwyd Cartwright Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2022
Lyrics
Byw i'r awr, byw i'r dydd
Byw i'r eithaf, yn llawn ffydd
Taena'th olau dros y byd
Gwna dy orau di o hyd
Mae'n rhaid 'ti dderbyn pwy wyt ti
Cyn medri fynd ymlaen i daclo heriau'r byd
Gwareda'r holl feddylie ffôl
Yr anrhefn yn dy ben
Sydd yn mynnu'th ddal di nôl
Ond rhaid byw i'r dydd
Byw i'r eithaf yn llawn ffydd
Taena'th olau dros y byd
Gwna dy orau di o hyd
Mae dyddiau du, a dyddiau llwm
A phwysau'r byd yn ormod
Ar dy sgwyddau'n drwm
Ond hei, nid ti yw'r unig un
Sy'n diodde'n dawel bach
Er yn gwenu ymhob llun
Caddug! Cwmwl du
Sy'n ceisio dod i'th lethu di
Dal dy dir, cei weld cyn hir
Daw'r haul i'th lonni
Rhaid bod yn gry
Dysgu parchu ti dy hun
Rho dy liw a'th wên i'r llun
Ti'n iawn fel wyt ti
Byw i'r awr, byw i'r dydd
Byw i'r eithaf, yn llawn ffydd
Taena'th olau dros y byd
Rho dy gyfan di o hyd
Byw heb ofn, byw heb boen
Byw'n llawn egni, byw'n dy groen
Fe wnei ennyn parch y byd
O roi dy orau di o hyd
Byw i'r awr, byw i'r dydd
Byw i'r eithaf, yn llawn ffydd
Taena'th olau dros y byd
Rho dy gyfan di o hyd
Byw i weld pob toriad gwawr
Byw'n y foment, byw bob awr
Byw'n lle bod, byw yn rhydd
Yn llawn egni, yn llawn ffydd
Rho dy orau di bob dydd
Rwyt ti'n ddigon, werth y byd
Rhaid iti fyw'n dy groen dy hun
Yn driw i pwy wyt ti
A'th wên yn llenwi'r llun