Y Dolig Hwn Lyrics
- Genre:Folk
- Year of Release:2021
Lyrics
Mmmm
Tawel yw llethrau'r bryn
Llonydd yr eira gwyn
A minnau'n syllu'n syn
Mae'n nefoedd i fan hyn
Rhowch i ni hedd yn awr
Dileu y rhyfel mawr
Daw Dolig gyda'r wawr
O rhowch y gynnau'i lawr
Gad i mi werthfawrogi yr holl sydd gen i
Bod adre gyda teulu y Dolig hwn, y Dolig hwn
Ymhell o swn y gynnau - fe gynnwn ni'n canhwyllau
A throi bob nos yn olau y Dolig hwn
Mmmm
Gwae pob un terfysg blin
Ddaw i wenwyno'n sgrin
Cofiwn am eni'r Un
A elwir yn Fab y Dyn