Mr G ft. Jacob Elwy Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2022
Lyrics
Maeʼn edrych yn gomic yn ei sbectol mawr du
Ac maeʼn eistedd yn fodlon yng nghwmni ei hun
Ac maeʼi drwyn o yn biws, aʼi fwstash o yn fawr
Maeʼn hen bryd itiʼi throi hi am adre yn awr!
Mr G, Mr G, lle wyt ti yn mynd?
A beth ydy dy hanes? Dwed wrtha'i fy ffrind!
Chos dwi rioed di dy weld di yn sobor oʼr blaen
Mr G - ti di meddwi yn gocls!
Pan ddaw diwedd y nos - ac maeʼr bar bron a cau
Maeʼn cael un peint bach arall, dim mond un peint neu ddau
Ac mae ar ei oreʼ - a dioʼm isio mynd adre
Mae oʼn eistedd yn dawel, yn pwysoʼr y bar
Yn chwilio llawennydd yng ngwaelod y jar
Ac mae ar ei oreʼ, a dioʼm isio mynd adre
Mae ei gorrun yn foel dan y 'comb-overʼ blêr
Ac ei feddwl yn bell - rhwng y lleuad aʼr sêr
Ac maeʼn gwenu yn ddrygiog, fel plentyn bach drwg
Mr G rwyt tiʼn gr'adur bach doniol!
A sut ei di adre? Chos maeʼn tywallt y glaw!
Nei di gerdded 'rholl ffordd, a dy fag yn dy law?
Yn ôl i dy gwag - mor unig dy fyd
yn byw ac yn bod yn y dafarn o hyd
Pan ddaw diwedd y nos - ac maeʼr bar bron a cau
Maeʼn cael un peint bach arall, dim mond un peint neu ddau
Ac mae ar ei oreʼ - a dioʼm isio mynd adre
Maeʼn eistedd yn dawel, yn pwysoʼr y bar