Tybio Lyrics
- Genre:Alternative
- Year of Release:2021
Lyrics
Murmur yn fy ngalon
Teimlo mod i'n boddi
Dwi di clymu i'r cadwyni
Dwi methu datgysylltu
A mae'r enaid sy tu fewn
Yn dechrau toddi dwi'n tybio
A bob rhagbyddiaeth
Nawr yn cael ei torri
A pam mae'r gwir yn dechrau
Mae'n cadw ni yn effro
A tydw i ddim di arfer
Efo gymaint hyn o gyffro
Mewn rhinweddau bach tywyll
Dwi'n dechrau gweld goleuni
A wedyn nes i benderfyny
Trio cadw'n heini
Yn fy meddwl yn ormodol
Dwi'n tybio
Presennol, dyfodol
Dwi'n tybio
Bodoli yn y cysgod
Dwi'n tybio
Dio'm yn rhywbeth dwi'n adnabod
Dwi'n tybio
Dwi'n tybio
Nawr dwi'n erfyn arnat
Cymera fi yn gyflawn
A deud na hyn yw'r dechrau
A nid yr atalnod llawn
Dwi'n fwy anghyfforddus
A ma na swyn yn fy llais
Dwi'n byw yn fy nhydwybod
A trio unrhyw ymgais
Pan mae'r hin yn ymyryd
Ac yn dynwared cariad
Ond efo'r cariad yma tybiaf
Does na ddim cymhariad
A mae dy wedd wedi'i ddwyn
A pryd oedd y tan?
Ond efo'r ganwyll yn fy llygaid i
Yn ysu am dy gusan
A mae fy meddwl yn ormodol
Dwi'n tybio
Presenol, dyfodol
Dwi'n tybio
Bodoli yn y cysgod
Dwi'n tybio
Dio'm yn rhywbeth dwi'n adnabod
Dwi'n tybio
Yn fy meddwl yn ormodol
Dwi'n tybio
Presenol, dyfodol
Dwi'n tybio
Bodoli yn y cysgod
Dwi'n tybio
Dio'm yn rhywbeth dwi'n adnabod
Dwi'n tybio
Dwi'n tybio
Felly paid a gofyn
I mi fyw hebddot ti
Achos dwi'm yn gallu cysgu
A dwi'n breuddwydio amdanat ti
Felly cadw dy deilmladau
A tybio
'Sgwennu pethe lawr
A tybio
Gadael i mi waedu
A tybio
Dwi ddim y gwybod os fedrai neud hi
Dwi'n tybio
Rhedeg trwy stormydd
Dechrau cael fy nrysu
A rhywle yn fy meddwl
Mae na rhywun yn perlysu
Ti'n codi awydd arnai
I dorri lawr y gwarchau
A does na'm geiriau allai'i ddefnyddio
Di nhw heb cael ei dyfeisio eto
Tybio