Arianrhod Lyrics
- Genre:Alternative
- Year of Release:2021
Lyrics
Dwi lot llai clyfar na dwi isio bod
Yn gorwedd gyda Arianrhod
Dwi bron yn fyw dwi ddim yn dod
A na'i dy weld di tua hanner ffordd
Paid a creu helynt
Jyst chwarae dy delyn
Mae bob dim yn felyn
Fel bywyd heb elyn
Ti'n un o'r chwiorydd
Sy'n llifo'r afonydd
A gwneud mi'n aflonydd
Y stormydd, cawodydd
Yn erbyn yr elfenne
Y clwb malu penne
Tra dwi'n gorwedd yn yr weirglodd
Ti'n cymryd yr awenne
A o ni'n gorwedd yn yr weirglodd
Ti'n cymryd yr awenne
A clyma fi i'th olwyn arian
Yn ddigon sydyn i greu trydan
Daw gwynt y gogledd digon chwim
Awn ni i guddio yn y rhedyn
Ti di rhodd y ser, lleuad
Sw ni di meddwl am bum eiliad
Hyn oedd y dewis, dyma'r tynged
Nawr mae bob dim yn camgymeriad
Lle dwi'mynd
Lle dwi di bod?
Nunc video tenebris (lladin: 'gweld y tywyllwch')
Tennar yn grogbris
Dinistro cyhoeddus
Bob munud yn boenus
Cyfri pedwar bys a un bawd
Cyfri ar y traed i esbonio'r anffawd
A cyfri ar y milwyr, ar y morwyr
Ac ar y gwleidyddion
Tra mae pawb arall yn boddi
Hei Billie-Jean ti di cael dy vaccine?
Mae dy freichiau fel clai felly tyrd atai
Hei Billie-Jean ti di cael dy vaccine?
Mae dy freichiau fel clai felly tyrd atai
Dwi lot llai clyfar na dwisio bod
Dwi'n gorwedd efo Arianrhod
Bron yn fyw, dwi ddim yn dod
Nai dy weld di tua hanner ffordd
Nai dy weld di tua hanner ffordd