Mam Bach Lyrics
- Genre:Alternative
- Year of Release:2021
Lyrics
O ie, mam Bach
Mae'n ddrwg gennai am ddiflannu o ni'n chwylio am bach o awyr iach
Piga fyny'r 'sgriptiwn, pasia fi y rhaff
Efallai nei di sylwi da ni jyst yr un fath
Hwyl fawr mam llai
Ar ol gymaint o flynyddoedd, ydio'n amser i mi gymryd bai?
Cadw fy ffydd
Cadw-mi-gei
A mae'r cleisiau yn diflannu, ond pa rei?
O ie, mam bach
Ges di ddim y dewis pan yn rhwygo mi o dy sach
A bodda fi nawr, mae'n debyg mod i'n wrach
Nid yfory, fallai, ond w'rach
Bob mam yn fawr
Gei di alw o'n wirionedd, galw o yn ffawd
Fi di'r bys a ti di'r bawd
Efo'n gilydd, bydysawd