![Taflenni](https://source.boomplaymusic.com/group10/M00/02/05/10d44dc4590544829feb4ff383f87987_464_464.jpg)
Taflenni Lyrics
- Genre:Alternative
- Year of Release:2021
Lyrics
Di bod yn rhannu y taflenni rhy hir
Dadansoddi'r gwir
Aur, Thus, Mur
Llyncu fel mul
Cinio Dydd Sul
Enwogion yn dawnsio
Chwyldro i'w lawnsio
Byseddu'r 'Daily Post'
Dros dy wy ar dost
Mwy o farwolaethau
Na buddugoliaethau
Torri lawr y ffinie
Ceisio gwneud ffrindie
Papur sglodion
Odli dros yr olion
Inc ar bapurau
Gwaed ar nofelau
Clymu dy grie
Sefyll ar dy sgwydde
Gutenburg – mae'n troi'n ei lwch
Taflenni o gelwydde
Am llai na bum swllt
Rhannu taflenni, beth ddoth dros fy mhen i?
Dwi'n casglu'r calennig ben fy hunan eto 'lenni
Mae hi'n unig yma 'lenni
Rheoli y boblogaeth
Sydd allan yn marchogaeth
Ennyn dy gefnogaeth
Gyda diffyg hunaniaeth
Beth am y 'Scum'
Peidiwch a prynu
Llosgwch y pencadlys
Cerddwch mas o'r ffatris
Dechreuwch byta ffacbys
Dangosa fi y map, plis
Cymryd y tabledi, gorwedd ar dy wely
Ti'n gorwedd ar dy wely
Casglu'r calennig ben fy hunan eto 'lenni
A dwi'n rhannu taflenni, beth ddoth dros fy mhen i?
Dwi'n casglu calennig ben fy hunan eto 'lenni
Hunan eto 'lenni
Unig yma 'lenni
Cymryd y tabledi
Gorweddian ar dy wely
A darllen y taflenni