Curiad Copa Y Cawr Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2023
Lyrics
Pan welaf lu o lethrau hudol
Yn gartref clud i'r coed aruthrol
Daw bodlonrwydd mawr
Sefydlogrwydd nawr
Ei gwythiennau'n twymo
Y gwreiddiau sy'n bwydo'r
Atgofion sy'n atsain
Pob curiad, pob enaid y cawr
Y daw cynhesrwydd esblygiadol
O nythu dan ei thô urddasol
Cwrcwd i lawr yn y mawn
Mae'n gysurdeb llawn
Ei chysgod gormesol
Yn glogyn twymgalon
I dawelu'r prysurdeb
Pob parch at galon y cawr
Curiad copa, curiad copa, y cawr
Curiad copa, curiad copa, y cawr