Cydia Fy Llaw Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2023
Lyrics
Cydia fy llaw, cawn fynd i ddawnsio
Yn yr haul, yn y miri
Cydia fy llaw, rhaid datgelu
Beth yw'n doniau cudd
Deffroaf i atsain y galw, i fentro tu allan o'm hafan
Mond seibiant am funud, pwy a wyr
Am haul ar fy ngwyneb
Un cam ar y tro, codi fy mhen
Yr awel yn anwesu fy nhalcen
Os na fydd yr haul yn fy mhlesio, tro'f nôl
Dim angen cwestiynnu
Cydia fy llaw, cawn fynd i ddawnsio
Yn yr haul, yn y miri
Cydia fy llaw, rhaid datgelu
Beth yw'n doniau cudd
Dwy'n ysu am fynd i grwydro
Allan trwy'r drws a pipo
Tybed beth sy'n cuddio mas fan draw
Rhaid peidio a bod mor bwyllog
Efallai caf syndod, efallai cur pen
Dim syniad os na af i archwilio
Yn fy mreuddwydion wela i nerth
Sy'n effro i'r cwmni a'r cyffro
Cydia fy llaw, cawn fynd i ddawnsio
Yn yr haul, yn y miri
Cydia fy llaw, rhaid datgelu
Beth yw'n doniau cudd
Wedi cael digon o pendroni
Nawr mae'n amser cysylltu
Dwy am ddawnsio yn ystwyth a chwim
A saethu'n noeth ar draws y llyn
Am wynebu yr her, cofloedio y wefr
Carlamu trwy'r gwynt yn dawel
Rhaid symud ymlaen, cymylau duon ar ben
Rhaid dawnsio gyda tân yn fy nghalon
Cydia fy llaw, cawn fynd i ddawnsio
Yn yr haul, yn y miri
Cydia fy llaw, rhaid datgelu
Beth yw'n doniau cudd