Yr Un Hen Beth Lyrics
- Genre:Rock
- Year of Release:2023
Lyrics
Chwech o'r gloch y nos
Troi 'mlaen y teledu
Pwy sy'n ymddangos
Duw dder' i'm gwaredu
Gwen llawn ddannedd
Yn cuddio'i dafod cas
Siarad geiriau'r diafol
Yn gwisgo tei glas
Dyna'r un hen beth
Dw i 'di clywed ar hyd fy oes
Dim siawns i newid dim byd
Rhaid bod e'n tynnu coes
Dyna'r un hen beth
A 'dw i ar fin colli fy nhymer
Dyna'r un hen beth
Di gael ddigon o dy wychder
Pryd fydd hyn yn ddigon
I ni fynd ar drywydd ein hun
Pam ydyn ni mor fodlon
I ddilyn fath yma o ddyn
Edrycha dros ein hanes
Glyndŵr a Llywelyn
S'dim angen fod mor anwes
Anghofiaist am Dryweryn
Dyna'r un hen beth
Dw i 'di clywed ar hyd fy oes
Dim siawns i newid dim byd
Rhaid bod e'n tynnu coes
Dyna'r un hen beth
A 'dw i ar fin colli fy nhymer
Dyna'r un hen beth
Di gael ddigon o dy wychder
Dalwch yn dynn i'r ffydd
Mi fyddwn yn Gymry rhydd
Dalwch yn dynn i'r ffydd
Mi fyddwn yn Gymry rhydd
Dalwch yn dynn i'r ffydd
Mi fyddwn yn Gymry rhydd
Dalwch yn dynn i'r ffydd
Mi fyddwn yn Gymry rhydd ie
Dyna'r un hen beth
Dw i 'di clywed ar hyd fy oes
Dim siawns i newid dim byd
Rhaid bod e'n tynnu coes
Dyna'r un hen beth
A 'dw i ar fin colli fy nhymer
Dyna'r un hen beth
Di gael ddigon o dy wychder