Melys (Fersiwn Cân i Gymru) Lyrics
- Genre:Rock
- Year of Release:2023
Lyrics
Gorffen gwaith am un o'r gloch
A dw i am alw tacsi
Rhan fwya'n teimlo'n flinedig
Ond dw i am fynd dros ben llestri
Mae'r car yn teithio heibio'r golau'n
Fflachio yn y ffenest
A dwi'n eistedd efo botel wag
Llawn awydd am yr ornest
Does dim dweud
Oh Beth wyt ti'n 'neud i mi
Rwyt ti'n felys
Rwyt ti'n felys
Strydoedd yn mynd rownd a rownd
Ond dwi yn benderfynol
Yn y diwedd wna'i ffeindio ti
Mae methu'n annerbyniol
Cerdded trwy y drysau cul
Yn teimlo'n amyneddgar
Ac wrth gerdded cornel be rwy'n gweld
Yw ti ar silff y bar
Does dim dweud
Oh Beth wyt ti'n 'neud i mi
Mae fy llygaid yn disgleirio
Wrth i mi ofyn am dy enw
Ac mae'r botel yn agosáu
Dwi'n anwybyddu'r cwrw
Llygaid yn disgleirio
Ofyn am dy enw
Botel yn agosáu
Dwi'n anwybyddu'r cwrw
Oi, Oi, Oi, Oi