La la la Lyrics
- Genre:Acoustic
- Year of Release:2025
Lyrics
Rhedeg yn erbyn y cloc, dyna dwi o hyd yn ei neud
Rhedeg I ffwrdd o'r syniad o dacluso
Ai bai fi yw hi am fy mhroblemau I gyd?
Mi gefais I gardiau penblwydd
A dau ohonynt yr un hen bwnc
Yn trio gwneud hwyl o broblem ddifrifol
Yn gwneud jôc ohona I
Ai bai ofn ydi hi?
Dwi'm yn gwybod os oes na rhywbeth â allai fy newid
Dwi di trio bron bob dim
Byswn I'n falch os allai bobl adnabod pa mor anodd ydi byw fel hyn
Rhedeg yn erbyn y cloc, dyna dwi o hyd yn ei neud
Sut allai fod yn yr un hen sefyllfa
Efo 23 blwyddyn o brofiad ar y ddaear
A finne heb newid dim
A finne heb newid o gwbl
Newid, newid, newid
Dwisho newid, newid
S'neb yn deallt, deallt
Fe hoffwn I newid ond dwi'm yn gwybod
Dwi'm yn gwybod sut