
Ti Lyrics
- Genre:Acoustic
- Year of Release:2024
Lyrics
Pam wyt ti'n meddwl fod fy nghalon i
Yn curo, curo wrth dy weld di.
A finnau'n methu dallt y golwg syn
Pan gerddi heibio imi nawr fel hyn.
Ond ti yw mreuddwyd i
Yr unig un sy'n llenwin meddwl i
Mae f'enaid oll yn crefu 'mdanat nawr
A phob rhyw awr, tra bo gobaith.
A oes rhyw ronyn bach o gariad pur
I roi gobeithion imi dwed y gwir?
Paid gadael fi a'm byd yn deilchion mân
Dyma fydd fy nghri, dyma fydd fy nghân!
Ond ti yw mreuddwyd i
Yr unig un sy'n llenwin meddwl i
Mae f'enaid oll yn crefu 'mdanat nawr
A phob rhyw awr, tra bo gobaith.
Rwy'n fodlon aros am dy gariad di
A cheisio dangos iti mai myfi
Yw'r un sy'n llawn edmygedd pur
A nghariad i a fydd fel cadarn ddur.
Ond ti yw mreuddwyd i
Yr unig un sy'n llenwin meddwl i
Mae f'enaid oll yn crefu 'mdanat nawr
A phob rhyw awr.