Mae Santa ar ei ffordd Lyrics
- Genre:Pop
- Year of Release:2022
Lyrics
Mae sêr y nos yn dawnsio'n siriol
A phawb yn teimlo'n llon
Mae mam yn darllen stori swynol
O'r llyfr newydd sbon
Mae Santa ar ei ffordd
Mae'n teithio dros y byd
Bola'n llawn mins peis i fynd
Ar ei antur hud
Dwi'n smalio cysgu yn fy ngwely
A swatio mewn yn glyd
Nai godi gyda'r wawr yfory
I'r teulu ddod ynghyd
Mae Santa ar ei ffordd
Mae'n teithio dros y byd
Bola'n llawn mins peis i fynd
Ar ei antur hud
Mae Santa ar ei ffordd
Mae'n teithio dros y byd
Bola'n llawn mins peis i fynd
Ar ei antur hud
Mae clychau'n canu ar y gorwel
Clyw y ceirw chwim
Y cyffro'n chwyrlio ar yr awel
A minnau'n cysgu dim
Mae Santa ar ei ffordd
Mae'n teithio dros y byd
Bola'n llawn mins peis i fynd
Ar ei antur hud
Mae Santa ar ei ffordd
Mae'n teithio dros y byd
Bola'n llawn mins peis i fynd
Ar ei antur hud
Ei antur hud
Ei antur hud
Ei antur hud